SL(6)207 - Rheoliadau Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau) a Chyflasynnau Mwg (Addasu Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth yr UE a ddargedwir i wneud darpariaeth ynghylch awdurdodiadau cynhyrchion bwyd rheoleiddiedig o ran Cymru.

Mae Rhan 2 a'r Atodlenni i'r Rheoliadau yn diweddaru'r rhestr o fwydydd newydd awdurdodedig yn yr Atodiad i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn (UE) 2017/2470 sy'n sefydlu rhestr yr Undeb o fwydydd newydd ("Rheoliad yr UE 2017").  Mae'r darpariaethau'n awdurdodi cyfres o fwydydd newydd i'w defnyddio mewn diodydd sy'n seiliedig ar laeth a chynhyrchion tebyg a fwriedir ar gyfer plant ifanc, ychwanegion bwyd, fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol a chategorïau bwyd penodedig eraill.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau yn cynnwys  addasiadau i awdurdodiadau cyfredol ar gyfer pump o gynhyrchion cynradd i greu cyflasyn mwg yn yr Atodiad i Reoliad Gweithredu'r Comisiwn (UE) 1321/2013 sy'n sefydlu rhestr yr Undeb o gynhyrchion cynradd a awdurdodir i greu cyflas mwg i’w defnyddio yn y modd hwnnw mewn bwydydd neu arnynt ("Rheoliad yr UE 2013"). Mae'r diwygiadau'n newid enwau a chyfeiriadau deiliaid awdurdod yr awdurdodiadau cynnyrch perthnasol.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 5 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae Atodlenni 2 a 3 i'r Rheoliadau hyn yn mewnosod cofnodion newydd yn yr Atodiad i Reoliad yr UE 2017, sy'n cael yr effaith (ymhlith pethau eraill) o awdurdodi gosod ar y farchnad "Schizochytrium sp. (FCC-3204) oil a "Schizochytrium sp. (WZU477) oil" fel bwydydd newydd i'w defnyddio yn y categori bwyd penodedig o laeth fformiwla a fformiwla ddilynol.

Ar gyfer y ddau fwyd newydd hynny, mae'r Atodiad i Reoliad yr UE 2017 (fel y'i diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn) yn pennu "Lefelau uchaf o DHA" yn unol â "Rheoliad (UE) Rhif 609/2013", ac nid yw ei effaith yn glir ar unwaith.

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru egluro sut y bydd lefelau uchaf y DHA yn cael eu canfod drwy gyfeirio at Reoliad (UE) Rhif 600/2013 ar gyfer y categori bwyd penodedig o laeth fformiwla a fformiwla ddilynol ar gyfer y bwydydd newydd hyn.

2. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae paragraff 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn awdurdodi “Food Supplements as defined in the Food Supplements (Wales) Regulations 2003, excluding food supplements for infants and children under 3 years of age”" [pwyslais wedi'i ychwanegu] fel categori bwyd penodedig ar gyfer y bwyd newydd "Schizochytrium sp. (FCC-3204) oil”.

Yn yr un modd, mae paragraff 1 o Atodlen 4 a pharagraff 1 o Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn yn awdurdodi (ymhlith pethau eraill) “Food supplements as defined in the Food Supplements (Wales) Regulations 2003, excluding food supplements for infants and young children” [pwyslais wedi'i ychwanegu] fel categori bwyd penodedig ar gyfer y bwydydd newydd “3’-Sialyllactose (3’-SL) sodium salt (microbial source)” a “6’-Sialyllactose (6’-SL) sodium salt (microbial source)” yn y drefn honno.

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru egluro'r gwahaniaeth (os o gwbl) rhwng plant o dan 3 oed a phlant ifanc yn yr awdurdodiadau hyn.

3. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae'r penawdau yn Atodlenni 2 a 3 i'r Rheoliadau hyn yn cyfeirio at "Awdurdodi..." bwydydd penodol fel bwydydd newydd. Fodd bynnag, mae'r penawdau yn Atodlenni 4 a 5 i'r Rheoliadau hyn yn cyfeirio at "Awdurdodi rhoi ar y farchnad ..." bwydydd penodol fel bwydydd newydd.

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru egluro'r gwahaniaeth (os o gwbl) rhwng "Awdurdodi" ac "Awdurdodi rhoi ar y farchnad" yng nghyd-destun yr Atodlenni i'r Rheoliadau hyn.

4. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae paragraff 2 o Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn yn mewnosod manyleb ar gyfer y bwyd newydd “6’-Sialyllactose (6’-SL) sodium salt (microbial source)” yn Rheoliad yr UE 2017.

Yn y fanyleb, o dan y pennawd "Description", mae cyfeiriad at y bwyd newydd hwnnw sy'n cynnwys “6’-sialy-llactulose”. Fodd bynnag, hefyd yn y fanyleb honno, o dan y pennawd “Characteristics/Composition”, cyfeirir at yr un term fel “6’-Sialyl-lactulose”.

Mae'r gwall hwn yn ymddangos yn y fersiwn gyfatebol o'r Rheoliadau hyn ar gyfer Lloegr (the Novel Foods (Authorisations) and Smoke Flavourings (Modification of Authorisations) (England) Regulations 2022 (S.I. 2022/560)) ac fe'i cywirwyd wedyn gan Lywodraeth y DU yn unol â’r Novel Foods (Authorisations) and Smoke Flavourings (Modification of Authorisations) (Amendment) (England) Regulations 2022 (2022/619), gan ddisodli’r "6'-sialy-llactulose" â "6'-sialyl-lactulose".

5. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae rheoliadau 6 a 7 y Rheoliadau hyn yn ceisio diwygio Rheoliad yr UE 2013 mewn perthynas â chynhyrchion cynradd i greu cyflasyn mwg "SmokEz C-10" a "SmokEz Enviro-23" yn y drefn honno.

Fodd bynnag:

·         mae rheoliad 6 a'r pennawd cysylltiedig yn cyfeirio at gynnyrch "SmokEz C-10" fel "SmokeEz C-10"; ac

·         mae rheoliad 7 a'r pennawd cysylltiedig yn cyfeirio at gynnyrch "SmokEz Enviro-23" fel "SmokeEz Enviro-23" [pwyslais wedi'i ychwanegu],

ac nid yw’r rhain yn adlewyrchu'r termau hynny fel y'u rhestrir yn yr Atodiad i Reoliad yr UE 2013.

Rhinweddau: craffu    

Nodir un pwynt ar gyfer adrodd o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae paragraffau 11 a 12 y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Rheoliadau hyn yn cyfeirio at benderfyniad gan Weinidogion Cymru “i awdurdodi chwe chais ar gyfer bwydydd newydd" – tri "oligosacaridau llaeth dynol-unfath (HiMOs)" a thri "olewydd llawn asid docosahecsaëonig (DHA)”.

Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod Rhan 2 a'r Atodlenni i'r Rheoliad hwn yn awdurdodi (neu'n diwygio awdurdodiad presennol) 5 bwyd newydd yn unig. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru egluro a yw'r holl geisiadau y cyfeirir atynt yn y Memorandwm Esboniadol wedi'u hawdurdodi gan y Rheoliadau hyn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

15 Mehefin 2022